pam cymryd rhan?

Trwy weithredu gallwch wneud gwahaniaeth cadarnhaol

Trwy weithredu gyda'n gilydd gallwn wneud gwahaniaeth hyd yn oed yn fwy

Mae gan bob un ohonom gyfle i wneud gwahaniaeth go iawn i'n byd

Oes gennych chi ddiddordeb mewn gwirfoddoli, cynghori neu gefnogi Cymru Gynaliadwy yn uniongyrchol?

Cymru Gynaliadwy

Mae Cymru Gynaliadwy yn elusen llawr gwlad sy'n cynnwys gwirfoddolwyr.

Mae'n gweithio tuag at ddyfodol carbon isel, amddiffyn bioamrywiaeth ac yn annog angerdd am fyw'n gynaliadwy. Yn flaengar ac yn ymwybodol o’r cyd-destun rhyngwladol, ei nodau yw gwella diogelwch yr amgylchedd, cynnydd cymdeithasol a lles cymunedol.

Mae'n creu cyfleoedd i bobl gymryd rhan yn yr agendâu gwyrdd a moesegol, ac mae'n cefnogi 'arfer da' gan ddinasyddion, cynhyrchwyr, busnesau a gwleidyddion.

Mae'r corff anllywodraethol yn annog perchnogaeth leol a hunangymorth, gan weld hyn fel ffordd ymarferol o 'brif ffrydio' datblygu cynaliadwy.

Gellir efelychu ei brosiectau, sy'n cynnwys y gymuned, artistiaid, gwyddonwyr, busnesau a'r llywodraeth.

Fel hyn, gallwn feithrin dyfodol tecach a mwy cyffrous i Gymru gyda'n gilydd, heb i ddyfodol y Ddaear fod yn bris am hynny.

  • Er bod y gwaith yn heriol, mae hefyd yn werth chweil ac yn hwyl.

  • Cewch gyfle i weithio gyda phobl frwdfrydig, brofiadol o wahanol gefndiroedd.

  • Ymhlith y cyfleoedd mae cyfathrebu, cyfryngau cymdeithasol, datblygu ymgyrchoedd, digwyddiadau, ymchwil, gwaith gweinyddol a chyfrifon.

  • Cyn i chi benderfynu; edrychwch ar rai o'r geirdaon gan staff, gwirfoddolwyr, cleientiaid a phartneriaid blaenorol.

  • Dyma ragor o wybodaeth am ein contractau, ymgynghoriaethau a phrosiectau diweddar.

  • Yr hyn rydym ni’n ei wneud...

Edrychwn ymlaen at glywed gennych!

more ways to support us

For other ways you can support us we have a page for you!